Gwirfoddoli

Mae cynnal a rhedeg y Ganolfan yn dibynnu ar y gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u sgiliau yn hael i gadw’r Ganolfan yn hyfyw. Mae croeso bob amser i wirfoddolwyr ychwanegol, p’un ai i helpu i drefnu mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau, helpu i hyrwyddo’r Ganolfan a helpu gyda’r gwaith cynnal a chadw.

Cysylltwch â’r cydlynydd neu unrhyw un o’r ymddiriedolwyr os ydych chi am helpu neu os oes gennych chi syniadau am sut i gyflwyno gweithgareddau newydd i’r calendr.